Catalwnia (Llun: Berta Gelabert Vilà)
Wrth i Loegr ddathlu Dydd San Siôr, mae trigolion Catalwnia’n cynnal dathliadau i nodi Dydd Sant Jordi.

Mae’r diwrnod hefyd yn  cael ei adnabod wrth yr enwau El Dia de la Rosa (Diwrnod y Rhosyn) neu El Dia del Llibre (Diwrnod y Llyfr)

Ar y diwrnod hwn yn 1616 y cafodd yr awdur Miguel Cervantes ei gladdu, ddiwrnod ar ôl ei farwolaeth.

Yn ôl traddodiad, mae menywod yn derbyn rhosod gan ddynion ar y diwrnod hwnnw, tra bod dynion yn derbyn llyfr gan fenywod.

Ebrill 23, 1616 yw’r dyddiad pan fu farw William Shakespeare hefyd.

Mae disgwyl i hyd at chwe miliwn o rosod ac 800,000 o lyfrau fod wedi cael eu prynu erbyn hyn.

Fel rhan o’r dathliadau, mae adeilad llywodraeth Catalwnia, Palau de la Generalitat ar agor i’r cyhoedd – dim ond tri diwrnod y flwyddyn mae hynny’n digwydd.

El Clasico

Mae’n bosib y gallai Gareth Bale ddychwelyd i dîm Real Madrid ar ôl anaf wrth iddyn nhw herio Barcelona yn y Bernabeu yn El Clasico heno (7.45pm).

Mae Real Madrid yn mynd am dlws La Liga am y tro cyntaf ers 2012, ac maen nhw dri phwynt ar y blaen i’w gwrthwynebwyr gyda gêm wrth gefn.

Byddai buddugoliaeth yn ehangu’r bwlch rhwng y ddau dîm i chwe phwynt, ac mae gan Barcelona bum gêm yn weddill.

Hon fydd El Clasico olaf rheolwr Barcelona, Luis Enrique, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar ddiwedd y tymor.

Fydd Neymar ddim ar gael i Barcelona ar ôl iddo gael ei anfon o’r cae yn erbyn Malaga. Cafodd ei wahardd am un gêm yn wreiddiol, ond fe gafodd y gwaharddiad ei ymestyn i dair gêm ar ôl iddo sarhau’r dyfarnwr cynorthwyol drwy ei gymeradwyo wrth iddo gerdded o’r cae.

Bydd Barcelona yn herio Alaves yn rownd derfynol y Copa del Rey ar Fai 27.