Mae’n ymddangos fod prinder cynyddol o betrol yn Pyongyang, prifddinas Gogledd Corea.

Mae gorsafoedd petrol yn cau, ciwiau hir mewn rhai eraill, ac arwydd ar un yn dweud mai diplomyddion neu gerbydau sefydliadau tramor yn unig sy’n cael prynu tanwydd.

Gyda’r wlad yn dibynnu’n helaeth ar China am ei chyflenwad petrol, mae amheuon y gall China fod yn gweithredu sancsiynau rhyngwladol er mwyn pwyso ar Ogledd Corea i roi’r gorau i ddatblygu arfau niwclear.

Mae China wedi gwrthod cadarnhau na gwadu’r honiadau.

Mae cyflenwad petrol Gogledd Corea yn cael ei reoli’n dynn gan y wladwriaeth, gyda’r fyddin a swyddogion y wladwriaeth yn cael y flaenoriaeth.