Mae o leiaf 20 o blant wedi marw mewn damwain rhwng eu bws mini a lori yn Ne Affrica.

Yn ôl swyddogion fe gafodd 13 o blant eu canfod yn sownd yn y bws mini wedi i dân gael ei ddiffodd. Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff y plant eraill y tu allan i’r cerbyd.

Nid yw yn hysbys beth achosodd y ddamwain rhwng cymunedau Verena a Bronkhorstspruit, i’r dwyrain o Bretoria.