Mae ymchwilwyr yn yr Almaen yn ystyried trydydd posbilrwydd wrth iddyn nhw geisio darganfod pwy oedd yn gyfrifol am gyfres o ffrwydradau yn Dortmund yr wythnos diwethaf.
Yn ôl adroddiadau’r wasg yn yr Almaen, mae’r awdurdodau wedi derbyn llythyr sy’n cyfeirio at Adolf Hitler, peryglon aml-ddiwylliannedd a “rhybudd terfynol”.
Borussia Dortmund
Cafodd bws tîm pêl-droed Borussia Dortmund ei dargedu wrth i’r chwaraewyr deithio i’w stadiwm i herio Monaco yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Cafodd un o chwaraewyr Borussia Dortmund, Marc Batra ei anafu ac fe fu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei fraich.
Mae erlynwyr wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn y llythyr gan y wasg.
Damcaniaethau
Cafodd cyfres o lythyron eu darganfod ger y safle oedd yn awgrymu mai Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ oedd yn gyfrifol.
Ond mae’r awdurdodau bellach yn ystyried y posibilrwydd fod y llythyron yn ymgais i’w twyllo.
Mae erlynwyr hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod eithafwyr asgell chwith yn gyfrifol.