Mae’r dyn 26 oed sydd wedi’i arestio yn dilyn ymosodiad ar fws tîm pêl-droed, Borussia Dortmund, nos Fawrth, yn cael ei amau o fod yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd.

Er hynny, nid oes eto dystiolaeth i brofi mai ef oedd yn gyfrifol am y ffrwydriadau a achosodd niwed i un chwaraewr a heddwas. Mae’r ymchwiliad i ddarganfod y bomiwr yn parhau.

Yn ôl erlynwyr yr Almaen, mae lle i gredu bod y dyn o Irac, sydd wedi’i enwi am resymau cyfreithiol yn ‘Abdul Beset A’, wedi ymuno ag IS mor ddiweddar â 2014.

A’r gred ydi ei fod wedi teithio i Dwrci ym mis Mawrth 2015 gan barhau i gadw mewn cysylltiad ag aelodau o IS ar ôl cyrraedd Yr Almaen ar ddechrau 2016.

Fe fydd y llys yn penderfynu heddiw (ddydd Iau) p’un ai fydd o’n cael ei gadw yn y ddalfa ai peidio.