Stockholm (Llun: PA)
Ceisiwr lloches aflwyddiannus oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad brawychol yn Stockholm ddydd Gwener, yn ôl yr heddlu yn Sweden.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd yr heddlu fod y dyn yn cydymdeimlo â grwpiau eithafol a bod yr awdurdodau wedi bod yn chwilio amdano er mwyn ei alltudio.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi adnabod y pedwar o bobol fu farw yn y digwyddiad, a bod eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Daeth cadarnhad bod y pedwar fu farw’n dod o Sweden, Gwlad Belg a gwledydd Prydain.