Stockholm (Llun: PA)
Mae penaethiaid siop ym mhrifddinas Sweden wedi dweud eu bod nhw’n difaru cyhoeddi bod nwyddau a gafodd eu difrodi gan lori pan darodd i mewn i’r siop ar gael am bris llai wedi’r digwyddiad.
Cafodd y lori ei dwyn a’i gyrru i mewn i flaen siop Ahlens yn Stockholm, ac mae dyn 39 oed o Uzbekistan wedi cael ei arestio. Mae lle i gredu ei fod e wedi gyrru i ganol y dorf yn fwriadol.
Mewn datganiad ar Facebook, mae’r siop wedi ymddiheuro am wneud “penderfyniad gwael”.
Dywedodd mai ymgais oedd yr hysbyseb i “sefyll dros dryloywder a pheidio â gadael i rymoedd dieflig reoli ein bywydau”.
Mae disgwyl i’r siop agor yfory “heb unrhyw nwyddau sydd wedi’u difrodi”.
Mae nifer o bobol eraill yn cael eu holi mewn perthynas â’r digwyddiad yn Stockholm.