Dyn yn cario plentyn i ysbyty dros dro wedi'r ymosodiad cemegol yn Idlib yr wythnos yma (Llun: (Edlib Media Center, via AP)
Mae llywodraeth America wedi rhybuddio y bydd yn “barod i wneud mwy” i rwystro’r erchyllterau sy’n digwydd yn Syria o dan Bashar Assad.

Daw’r rhybudd ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump danio cyfres o daflegrau cruise ar faes awyr yn Syria i daro’n ôl yn erbyn ymosodiad ag arfau cemegol gan luoedd Assad ar ei bobl ei hun.

Dywedodd Nikki Haley, llysgennad yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig, mewn cyfarfod brys o’r Cyngor Diogelwch fod Washington wedi “cymryd cam cymesur” ond ei fod yn fodlon mynd ymhellach.

“Mae’n bryd i bob gwlad waraidd rwystro’r erchyllterau sy’n digwydd yn Syria a mynnu ateb gwleidyddol,” meddai.

Mae’r gweithredu milwrol gan America wedi cael ei feirniadu’n hallt gan Rwsia, gyda’r gweinidog tramor Sergei Lavrov yn ei gymharu â’r ymosodiad ar Irac yn 2003.