Gaza
Mae tri o Balesteina wedi cael eu dienyddio ar ôl cael eu cyhuddo o gydweithio ag Israel, yn ôl y grŵp milwrol Islamaidd, Hamas.

Dywedodd Hamas, sy’n rheoli’r Llain Gaza ym Mhalesteina, eu bod nhw wedi cael eu crogi yn llys yr heddlu bore dydd Iau wrth i ddwsinau o arweinwyr Hamas a swyddogion wylio.

Mae’r grŵp wedi lansio ymgyrchu yn y cyfryngau lleol yn erbyn y sawl y mae’n amau sy’n ysbïo dros Israel, ar ôl i aelod o’r grŵp, Mazen Faqha, gael ei ddarganfod yn farw yn Gaza’r fis diwethaf.

Roedd Israel wedi ei ddedfrydu i naw dedfryd oes am arwain ymosodiadau hunanfomio.

Ond cafodd ei ryddhau, ynghyd â dros 1,000 o garcharorion eraill o Balesteina, mewn cyfnewid ag un milwr Israelaidd yn 2011.

Dienyddiadau Hamas

Mae Hamas wedi lladd 25 o bobol dan ei system farnwrol ers 2007 pan wnaeth gymryd rheolaeth ar Gaza.

Fe wnaeth y grŵp ladd 23 o bobol hefyd heb achos llys yn ystod y rhyfel ag Israel yn 2014.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi condemnio’r achos diweddaraf o ddienyddio, gyda’r grŵp Human Rights Watch yn y dwyrain canol yn ei alw’n “ffiaidd”.

Ar ôl dienyddio’r tri, gosododd Hamas fariau ledled Gaza ac mae wedi gwrthod gadael trigolion a gweithwyr cymorth tramor rhag mynd i Israel.

Mae bellach wedi llacio rhai o’r cyfyngiadau ac wedi gadael rhai Palesteiniaid – y rhan fwyaf yn bobol sydd angen triniaeth feddygol, perthnasau carcharorion yn Israel a gweithwyr cymorth rhyngwladol – i groesi’r ffin at Israel.