Mae criw o archeolegwyr yn yr Aifft wedi dod o hyd i weddillion pyramid ‘newydd’ sy’n dyddio’n ôl 3,700 mlynedd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r gweddillion i’r gogledd o byramid cam y Brenin Sneferu yn ardal frenhinol Dahshur yn Cairo.

O edrych ar ba mor serth ydi ochrau y pyramid newydd hwn, y gred ydi mai dyma ymgais gynta’r Aifft i godi pyramid gydag ymylon llyfn.

Mae arbenigwyr yn meddwl mai gweithwyr ac uchel swyddogion mewn llysoedd brenhinoedd oedd yn cael eu claddu yn yr ardal honn.

Mae’r gweddillion sydd wedi’u canfod yn perthyn i’r tu fewn i adeilad y pyramid, ac yn cynnwys coridor.