Mae 24 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn llifogydd yng Ngholombia.

Cafodd cartrefi eu dinistrio ger y ffin ag Ecwador wrth i drigolion Mocao gysgu.

Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio am oroeswyr, ond mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu.

Mae disgwyl i’r Arlywydd Juan Manuel Santos ymweld â’r ardal yfory.