Mae o leiaf 27 o bobol ar goll ar ôl i dirlithriad daro ynys Java yn Indonesia.
Cafodd hyd at 30 o dai eu taro ym mhentref Banaran yn nwyrain yr ynys fore Sadwrn.
Mae rhai adroddiadau lleol yn awgrymu y gallai hyd at 38 o bobol fod ar goll.
Mae swyddogion, milwyr, plismyn a gwirfoddolwyr yn parhau i chwilio am oroeswyr.