Donald Tusk - wedi cyflwyno argymhellion (Plaid Pobol Ewrop CCA 2.0)
Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd wedi rhoi syniad o sut y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn trafod Brexit a’r berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r 27 o wledydd fydd ar ôl yn yr Undeb.

Mae Donald Tusk wedi cyflwyno ei ganllawiau drafft ar gyfer y trafodaethau i arweinwyr eraill yr Undeb – ddeuddydd ar ôl i’r broses adael ddechrau yn swyddogol.

Hyd yn oed cyn i’r trafodaethau ddechrau, roedd ffrae wedi codi rhwng Llundain a Brwsel am drefn y trafodaethau – gyda phenaethiaid yr Undeb yn mynnu bod rhaid trefnu amodau gadael cyn dechrau trafod masnach.

‘Mwy unedig nag erioed’

Ddydd Iau, fe roddodd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, gefnogaeth i Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, i wrthod galwad Llywodraeth Prydain am drafod y ddau beth yr un pryd.

Eisoes mae Donald Tusk wedi dweud bod Brexit wedi gwneud “cymuned y 27 [o wledydd] yn fwy penderfynol a mwy unedig nag erioed.”

Mae disgwyl i’w ganllawiau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol mewn cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd mis Ebrill.

Dadlau cyn dechrau

Mae disgwyl dadlau caled hefyd dros y posibilrwydd y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig dalu tua £50 biliwn i dalu am eu hymrwymiadau i’r UE cyn gadael.

Er bod Theresa May wedi cydnabod y bydd yn rhaid talu “setliad teg”, mae Llywodraeth Prydain yn mynnu na fydd mor sylweddol  â’r swm sy’n cael ei grybwyll gan Frwsel.

Yn y cyfamser, bu ffrae arall dros fwriad honedig Theresa May i gynnwys cydweithio ar ddiogelwch yn rhan o’r bargeinio.