Mae arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod yn Rhufain i nodi 60 mlynedd ers arwyddo’r cytundeb gwreiddiol a arweiniodd at sefydlu’r corff rhyngwladol.

Nid yw’r Prif Weinidog Theresa May yn rhan o’r dathliadau, wrth iddi baratoi ar gyfer gweithredu Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i arweinwyr y 27 gwlad arall gymeradwyo datganiad newydd yn Rhufain a fydd yn ymrwymo i ddyfodol unedig a cheisio ffordd o ymdrin ag argyfyngau’r blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, ei bod yn “adeg trist iawn” cynnal dathliad 60 mlynedd Cytundeb Rhufain heb Brydain yn cymryd rhan.

“Mae Brexit, ymadawiad Prydain yn drasiedi i’r 27 o wledydd eraill sy’n cyfarfod yn Rhufain,” meddai.