Mae bom llythyr wedi ffrwydro yn swyddfa Cronfa Arian Ewrop ym mhrifddinas Ffrainc.
Fe gafodd staff yr IMF eu symud o’r swyddfa yng ngorllewin Paris, wrth i filwyr a heddlu ddod yno i warchod y safle. Mae swyddfa Banc y Byd yn yr un bloc o adeiladau.
Ni chafodd difrod mawr ei achosi gan y ffrwydriad, meddai llefarydd ar ran yr heddlu, a dyw hi ddim yn glir eto pwy anfonodd y ffrwydron yn y post.
Fe ddaw’r digwyddiad hwn ddiwrnod yn unig wedi i becyn amheus yn cynnwys ffrwydron gyrraedd gweinyddiaeth ariannol yr Almaen.
Mae Ffrainc yn dal i fod mewn stad o argyfwng yn dilyn cyfres o ymosodiadau angheuol gan eithafwyr Islamaidd dros y ddwy flynedd ddiwetha’.