Recep Tayyip Erdogan Llun: PA
Mae Gweinyddiaeth Dramor Twrci wedi cwrdd â phrif ddiplomydd yr Iseldiroedd er mwyn gwneud cŵyn ffurfiol am y driniaeth a gafodd gweinidog o Dwrci yn y wlad dros y penwythnos.

Mae hefyd wedi mynegi pryderon am y grym “anghymesur” a gafodd ei ddefnyddio yn erbyn dinasyddion o Dwrci a oedd wedi bod yn protestio yn Rotterdam.

Cafodd dau weinidog o Dwrci eu hatal rhag ymgyrchu yn yr Iseldiroedd ddydd Sul gyda’r Gweinidog Materion Teuluol, Fatma Betul Sayan Kaya, yn cael ei chludo o’r wlad a’r gweinidog tramor, Mevlut Cavusoglu, yn cael ei atal rhag glanio yn yr Iseldiroedd.

Cafodd diplomydd yr Iseldiroedd, Daan Feddo Huisigno, ei alw i’r weinyddiaeth lle derbyniodd ddau gŵyn ffurfiol, yn ôl swyddogion Twrci.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, wedi mynnu y bydd yn ymateb i weithredoedd yr Iseldiroedd ac mae wedi honni fod “Natsïaeth yn fyw o hyd yn y Gorllewin.”