Mae fideo wedi ymddangos ar y we yn honni bod mab Kim Jong Nam yn fyw ac iach.

Yn ôl y fideo ar YouTube, mae mab hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un yn aros gyda’i fam a’i chwaer yn dilyn marwolaeth ei dad.

Cafodd Kim Jong Nam ei ladd gan ddwy ddynes mewn maes awyr ym Malaysia ar Chwefror 13.

Mae lle i gredu bod gan Kim Jong Un ran ym marwolaeth ei hanner brawd, a hynny’n ymgais i’w atal rhag herio’i statws fel arweinydd y wlad.

Ers ei farwolaeth, fe fu pryderon am ddiogelwch ei fab, Kim Han Sol, oedd wedi beirniadu Kim Jong Un mewn cyfweliad â’r cyfryngau yn Y Ffindir yn 2012.

“Fy enw i yw Kim Han Sol o Ogledd Corea,” meddai’r dyn yn y fideo 40 eiliad.

“Cafodd fy nhad ei ladd ychydig ddiwrnodau’n ôl. Ar hyn o bryd, dw i gyda fy mam a fy chwaer. Gobeithio y bydd hyn yn gwella’n fuan.”

Yn ôl swyddogion cudd-wybodaeth yn Ne Corea, maen nhw wedi cadarnhau mai Kim Han Sol sydd yn ymddangos yn y fideo. Ond dydyn nhw ddim wedi dweud sut maen nhw wedi dod i’r casgliad hwnnw.

Cafodd y fideo ei chyhoeddi ar sianel YouTube Cheollima Civil Defence, sy’n helpu alltudion o Ogledd Corea.

Mae swyddogion ym Malaysia yn parhau i chwilio am saith o bobol o Ogledd Corea mewn perthynas â marwolaeth Kim Jong Nam.