Francois Fillon a'i wraig Penelope
Mae cyn-Brif Weinidog Ffrainc wedi cadarnhau na fydd e’n ymuno â’r ras arlywyddol i achub ei blaid petai’r ymgeisydd Francois Fillon yn rhoi’r gorau iddi.

Mae Francois Fillon yn wynebu cyhuddiadau am drefnu swyddi wedi’u talu gan y llywodraeth i’w wraig o Gymru ac i ddau o’u plant.

Mae’r sefyllfa wedi creu argyfwng ymysg ceidwadwyr Ffrainc gyda rhai o’i gynghreiriad agosaf wedi gadael ei ymgyrch.

Ond mae Alain Juppe wedi cadarnhau na fydd e’n cymryd ei le er iddo dderbyn galwadau i wneud hynny, gan ddweud ei bod hi’n rhy hwyr.

Gwleidyddiaeth asgell dde

Mae gwraig Francois Fillon yn wreiddiol o’r Fenni ac mae hi wedi annog ei gŵr i barhau yn y ras hyd y diwedd.

Dywedodd Penelope Fillon fod cael ei chysylltu â’r sgandal wedi ei brifo – “roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael fy nharo gan fellt a tharanau. Dyma’r peth gwaethaf imi brofi yn fy mywyd.”

Mae rhai wedi rhybuddio fod y sgandal a’r rhwygiadau o fewn y blaid wedi agor y ffordd i wleidyddiaeth asgell dde’r wlad.

Mae rhai o bolau piniwn y wlad yn awgrymu y gallai Marine Le Pen neu’r ymgeisydd annibynnol Emmanuel Macron ddod i frig y cylch cyntaf o bleidleisiau ar Ebrill 23.