Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae rhai o gyfryngau newyddion amlycaf y byd wedi cael eu gwahardd o gynhadledd i’r wasg yn y Tŷ Gwyn.

Yn eu plith mae CNN a’r New York Times o America a’r BBC a’r Guardian o Brydain.

Yn fuan ar ôl i’r arlywydd Donald Trump, draddodi araith yn ymosod ar y cyfryngau fel ‘newyddion ffug’ a ‘gelyn y bobl’, fe wnaeth ei ysgrifennydd y wasg, Sean Spicer, gyhoeddi cyfyngiadau ar y cyfryngau a fyddai’n cael eu briffio.

Mae CNN a’r New York Times wedi cael eu beirniadu’n hallt gan Donald Trump yn y gorffennol.

Mae’r BBC wedi holi’r Tŷ Gwyn am eglurhad pam eu bod wedi cael eu gwahardd.

Roedd y Tŷ Gwyn wedi gwahodd asiantau newyddion a fydd yn rhannu eu gwaith â chyfryngau eraill, gan ddadlau fod pawb yn cael eu cynrychioli.

Fodd bynnag, roedd Sean Spicer wedi gwahodd amryw o gyfryngau eraill, gan gynnwys y wefan newyddion asgell dde, Breitbart. Mae cyn-gadeirydd Breitbart, Steve Bannon, bellach yn brif strategydd Donald Trump.

Dywedodd Jeff Mason, llywydd cymdeithas gohebwyr y Tŷ Gwyn, eu bod yn protestio’n gryf yn erbyn y cyfyngu ar rôl gwasg rydd mewn democratiaeth.