Cafodd mab y bocsiwr enwog Muhammad Ali ei gadw am bron i dwyawr gan swyddogion mewnfudo mewn maes awyr yn Florida a’i holi a yw’n Fwslim.

Roedd Muhammed Ali y mab, 44 oed, yn dychwelyd gyda’i fam Khalilah Camacho-Ali, ail wraig Muhammed Ali, o Jamaica i faes awyr Fort Lauderdale.

Dywedodd ei gyfreithiwr iddo gael ei holi’n barhaus â’r cwestiynau “O le cawsoch chi’ch enw?” ac “Ydych chi’n Fwslim?”

Cafodd Muhammed Ali y mab ei eni yn Philadelphia ac mae’n dal pasport Unol Daleithiau America.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth America na allan nhw drafod teithwyr unigol, ond bod pob teithiwr rhyngwladol sy’n cyrraedd y wlad yn wynebu cael eu holi gan swyddogion mewnfudo.