Vladimir Putin yw Arlywydd Rwsia
Mae swyddogion Almaenaidd wedi beirniadu cynlluniau lluoedd arfog Rwsia i adeiladu replica o adeilad senedd Berlin, er mwyn iddo fod yn darged i’w ymosod.

Yn ôl gweinyddiaeth amddiffyn Rwsia, pwrpas y replica o’r Reichstag ym Moscow yw cynorthwyo’r Fyddin ifanc – plant yn eu harddegau –  i ddysgu sgiliau milwrol.

Ar derfyn yr Ail Ryfel Byd bu rhyfela ffyrnig o gwmpas adeilad seneddol y Reichstag rhwng y Rwsiaid a’r Natsïaid, ac mae yna lun enwog o filwyr Sofietaidd yn codi baner dros yr adeilad.

“Fydden ni ddim yn adeiladu rhywbeth fel yna ar gyfer addysgu ieuenctid yr Almaen,” meddai llefarydd gweinyddiaeth dramor yr Almaen, Martin Schaefer.