Mae dyn o wledydd Prydain sydd wedi ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am ymosodiad seibr ar gwmni Almaeneg, wedi cael ei arestio.

Cafodd y dyn 29 oed ei ddal ym maes awyr Luton ddydd Mercher, Chwefror 22, gan swyddogion yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.

Ym mis Tachwedd, fe fu ymosodiad ar wasanaeth rhyngrwyd Deutsche Telekom a effeithiodd ar tua miliwn o gwsmeriaid.

Mae heddlu yn gobeithio cludo’r dyn i’r Almaen lle mae’n debygol y bydd yn wynebu cyhuddiad o ddifrod cyfrifiadurol a gall cael ei ddedfryd i 10 blynedd mewn carchar.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol cafodd y dyn ei arestio mewn cysylltiad â chyfres o droseddau yn y Deyrnas Unedig.