Mae’r trafodaethau i ail-uno ynys Cyprus wedi diodde’ ergyd fawr, wrth i’r Cypriaid Twrcaidd dynnu allan o gyfarfod a oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau yr wythnos hon.

Mae arlywydd y wlad, Nicos Anastasiades, wedi mynegi ei siom na allai arweinydd y garfan Dwrcaidd, Mustafa Akinci, weld ei ffordd yn glir i ddilyn y drefn a roddwyd mewn lle gan y Cenhedloedd Unedig, i gynnal trafodaethau gyda’r Cypriaid Groegaidd.

“Rydw i’n barod i ail-afael yn y trafodaethau unrhyw bryd,” meddai Nicos Anastasiades ar ei gyfri’ Twitter.

Er bod y ddwy ochr yn mynnu nad ydi’r trafodaethau wedi methu’n llwyr, mae’r datblygiad diweddara’ hwn yn ergyd i ymddiriedaeth y ddwy ochr yn ei gilydd ers i’r broses heddwch gael ei sefydlu 22 mis yn ôl.

Fe gafodd Cyprys ei rhannu yn 1974 wedi i Dwrci ymosod arni yn ystod cyfnod ansicr wedi i’r rheiny oedd am uno gyda gwlad Groeg geisio ennill grym trwy coup d’etat.