Byddai annibyniaeth i Gatalwnia’n gamgymeriad, yn ôl cyn-chwaraewr pêl-droed tîm Barcelona, Dani Alves.

Gwnaeth ei sylwadau yn ystod cyfweliad â phapur newydd ABC yn Sbaen.

Symudodd yr amddiffynnwr, sy’n hanu o Frasil, o Barcelona i Juventus yn yr Eidal haf diwethaf ar ôl wyth mlynedd yn byw yng Nghatalwnia.

Yn ôl Dani Alves, mae’r ymgyrch o blaid annibyniaeth yn “diystyru gweddill Sbaen”, ac mae’n dadlau bod Catalaniaid yn “cau eu hunain i ffwrdd” ac yn “ddrwgdybus” o Sbaenwyr.

Ac mae e wedi beirniadu’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn gorymdeithiau ac ymgyrchoedd o blaid annibyniaeth.

“Mae yna bobol sy’n mynd i’r gorymdeithiau tros annibyniaeth, ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod beth yw annibyniaeth.

“Maen nhw’n dilyn tuedd, ac yn dilyn y dorf.”

Nid annibyniaeth yw’r ateb i’r anghydfod rhwng Sbaen a Chatalwnia, meddai.

Yn hytrach, mae e’n galw am “ddeialog a chonsensws” gan y byddai “Catalwnia annibynnol yn gamgymeriad”.

Gerard Pique

Daw sylwadau Dani Alves ychydig ddiwrnodau ar ôl i’r cyn-bêldroediwr Alfonso Perez, oedd wedi chwarae dros Barcelona a Real Madrid yn ystod ei yrfa, alw ar amddiffynnwr Sbaen, Gerard Pique i ymddeol o dîm cenedlaethol Sbaen.

Yn ôl Alfonso Perez, does dim lle yn nhîm Sbaen i unrhyw chwaraewr sy’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia.

Dywedodd Alfonso Perez wrth y papur newydd Marca: “Dw i ddim yn erbyn y Catalaniaid. Cafodd fy mab ei eni yn Barcelona a phe bawn i’n radical, fe fyddai wedi cael ei eni ym Madrid neu Sevilla.

“Does gen i ddim gwrthwynebiad i Gatalaniaid, ond dw i’n gwrthwynebu’r rheiny sy’n galw am annibyniaeth.

“Mae Pique yn yr un sefyllfa â [Pep] Guardiola. Yr hyn sy’n digwydd yw ei fod e’n chwarae ar hyn o bryd a phan ddaw’r eiliad, fe fydd e’r un mor radical â Pep Guardiola.

“Mae e wedi ei osod ei hun yng nghanol annibyniaeth i Gatalwnia.”