Safle'r ddamwain yn Essendon (Llun: PA)
Fe waeddodd peilot y gair “Mayday” – heb ddweud beth yn union oedd yr argyfwng – ychydig amser cyn i’w awyren blymio i mewn i do canolfan siopa yn Awstralia ddoe.

Fe’i lladdwyd o, ynghyd â phedwar ymwelydd o’r Unol Daleithiau, yn y ddamwain.

Mae heddlu yn Melbourne yn rhoi’r bai ar “fethiant difrifol yr injan” tros y ffaith i’r awyren Beechcraft B200 Super King Air fynd ar ei phen i mewn i do canolfan Direct Factory Outlet yn ardal Essendon ddydd Mawrth – ychydig funudau’n unig wedi i’r awyren godi o faes awyr gerllaw.

Roedd y peilot, Max Quartermain, 63, yn berchennog cwmni siarter Corporate and Leisure Travel.

Mae enwau’r teithwyr wedi’u cyhoeddi hefyd – Greg De Haven, Russell Munsch, Glenn Garland a John Washburn, a oedd bob un yn byw yn ardal Austin, Tecsas.