Mae pump o bobl oedd ar wyliau golffio wedi cael eu lladd mewn damwain awyren yn Melbourne, Awstralia.

Roedd yr awyren fechan newydd adael maes awyr Essendon pan darodd i  mewn i ganolfan siopa Direct Factory Outlet, 45 munud cyn iddi agor, meddai’r heddlu.

Roedd peilot o Awstralia a phedwar o dwristiaid o America ymhlith y meirw.

Roedd y peilot, Max Quartermain, wedi rhybuddio bod “yr injan wedi methu yn llwyr” cyn i’r awyren daro yn erbyn cefn y ganolfan siopa.

Cadarnhaodd Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Canberra bod pedwar o’r bobol fu farw yn dod o America. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu hadnabod ar wefannau cymdeithasol fel Greg Reynolds De Haven a Russell Munsch.

Dywed yr heddlu na chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y ddamwain.