Mae lluoedd Irac wrthi’n ceisio adennill tir yn rhannau gorllewinol dinas Mosul yn Irac.
Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – sy’n rheoli yno ar hyn o bryd.
Daeth cadarnhad o’r ymgyrch filwrol ddiweddaraf gan Brif Weinidog Irac, Haider al-Abadi y bore ma.
Dywedodd fod y lluoedd arfog yn ceisio “rhyddhau pobol Mosul rhag gormes Daesh am byth”.
Mae nifer o safleoedd pwysig Daesh wedi cael eu bomio, ac mae’r lluoedd yn ymgasglu yn barod i symud ymhellach i’r gogledd.
Lluoedd Irac sy’n rheoli rhannau dwyreiniol ail ddinas fwyaf Irac erbyn hyn.