Leuven (Llun: Trip Advisor)
Mae un person wedi marw a 20 o bobol wedi’u hanafu ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau a moelyd ger Brwsel.
Dywedodd maer tref Leuven, Louis Tobback ei bod hi’n debygol nad oedd yr unigolyn a fu farw ar y trên adeg y digwyddiad.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ystod y prynhawn wrth i’r trên adael gorsaf Leuven i gyfeiriad Brwsel.
Dim ond man anafiadau gafodd y rhan fwyaf o deithwyr.
Mae cryn oedi i deithwyr rhwng Leuven a Brwsel erbyn hyn, ac mae ymchwiliad ar y gweill.