Yahya Jammeh, sy'n cael ei olynu gan Adama Barrow yn y Gambia (Llun: PA)
Mae miloedd o bobol wedi ymgasglu ar gyfer seremoni urddo Adama Barrow yn Arlywydd newydd y Gambia.
Daw’r seremoni yn dilyn ffrae â’i ragflaenydd Yahya Jammeh, oedd yn gwrthod ildio grym.
Daeth Adama Barrow yn Arlywydd yn swyddogol yn Senegal fis diwethaf yn ystod y ffrae, ac fe fu’n rhaid i Yahya Jammeh ildio i’r pwysau i dderbyn canlyniad yr etholiad.
Mae e bellach wedi ffoi o’r wlad.
Pwy yw Adama Barrow?
Cafodd Adama Barrow ei eni yn 1965, y flwyddyn y daeth y Gambia’n wlad annibynnol.
Ac yntau bellach yn 52 oed, mae e wedi addo gwyrdroi nifer o bolisïau mwyaf dadleuol ei ragflaenydd dros gyfnod o ddau ddegawd.
Mae e wedi addo aros yn rhan o’r Llys Troseddol Rhyngwladol, ac ail-ymuno â’r Gymanwlad.
Mae e hefyd wedi addo rhyddhau nifer o garcharorion gwleidyddol.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi neilltuo 80 miliwn o ddoleri (£64 miliwn) i godi’r wlad unwaith eto yn dilyn y tensiynau â Yahya Jammeh.
Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain wrth Adama Barrow ddydd Mawrth: “Rydyn ni yma i helpu.”