Siarc (Llun: PA)
Mae dyn wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl i siarc ei frathu wrth iddo bysgota ar y Great Barrier Reef yn Awstralia.
Cafodd y dyn 26 oed ei frathu ar ei goes ger ynys Hinchinbrook ar arfordir Queensland.
Cafodd ei gludo mewn cwch i dref Cardwell, lle cafodd driniaeth gan barafeddygon cyn cael ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Cairns.
Dyma’r ail ddigwyddiad o’r fath o fewn deufis, yn dilyn ymosodiad ar ddyn 55 oed yn yr un ardal fis diwethaf.