Kim Jong Un
Mae’r sancsiynau niwclear a thaflegrau ar Ogledd Corea yn ymgais i niweidio eu timau chwaraeon cenedlaethol, yn ôl pwyllgor Olympaidd y wlad.

Daw’r sylwadau flwyddyn cyn i Dde Corea gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2018.

Mae’r sancsiynau’n cynnwys gwaharddiad ar werthu cyfarpar chwaraeon megis skis, cerbydau eira, cychod a byrddau billiards, ac maen nhw wedi cael eu galw’n “gynllwyn gwleidyddol ffiaidd” gan ysgrifennydd cyffredinol pwyllgor Olympaidd Gogledd Corea, Kang Ryong Gil.

Mae eitemau o’r fath yn cael eu hystyried yn eitemau moethus gan y Cenhedloedd Unedig, sy’n cosbi Gogledd Corea am gynnal profion niwclear a lansio taflegrau heb ganiatâd.

Mewn datganiad, dywedodd Kang Ryong Gil fod nifer o wledydd wedi gwrthod gwerthu cyfarpar chwaraeon angenrheidiol i’r wlad oherwydd y sancsiynau. Roedd yn honni hefyd fod y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi cael eu gwahardd rhag trosglwyddo arian i Ogledd Corea fel rhan o gynllun i helpu gwledydd i ddatblygu eu darpariaeth chwaraeon.

Mae codi proffil y wlad drwy chwaraeon yn uchel ar agenda prif weinidog Gogledd Corea, Kim Jong Un.