Atomfa Flamanville (Llun: Wikipedia)
Mae ffrwydriad wedi bod yn ystafell beiriannau un o orsafoedd niwcliar Ffrainc – ond mae’r awdurdodau’n pwysleisio nad oes unrhyw ymbelydredd wedi gollwng.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad ar safle Flamanville yn rhanbarth Mange ar arfordir gogedd-orllewin Ffrainc.

Yn ol y cwmni EDF, tân achosodd y ffrwydriad yn ystafell beiriannau un o’r ddau adweithydd niwcliar yn Flamanville, ond chafodd neb ei anafu, ac fe gafodd y fflamau eu diffodd “yn syth”.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd gan EDF bod adweithydd rhif un wedi’i ddadgysylltu o’r grid yn dilyn y digwyddiad.