Vladimir Putin (Llun: PA)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud ei fod yn “parchu” Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Ond mae’n dweud nad oes rheidrwydd y bydd y ddau yn cyd-dynnu.

Mewn cyfweliad â Fox, dywedodd: “Dw i’n parchu llawer o bobol, ond dydy hynny ddim yn meddwl y bydda i’n dod ymlaen â fe.

“Fe yw arweinydd ei wlad. Dw i’n dweud ei bod yn well dod ymlaen â Rwsia na pheidio.

“Ac os yw Rwsia’n ein helpu ni yn y frwydr yn erbyn ISIS, sy’n frwydr fawr, a brawychiaeth Islamaidd ar draws y byd, mae hynny’n beth da.

“A fydda i’n dod ymlaen â fe? Does dim syniad gyda fi.”

‘Dyn galluog a thalentog’

Mae Vladimir Putin wedi galw Donald Trump yn “ddyn galluog a thalentog”.

Ddydd Iau, cafodd sancsiynau oedd yn atal cwmnïau Americanaidd rhag allforio rhai nwyddau electronig i Rwsia eu llacio.

Doedd dim bwriad i’r sancsiynau effeithio ar allforion o’r fath, ond mae American’n gwadu eu bod nhw’n llacio’r sancsiynau.

Yr wythnos diwethaf, roedd llysgennad yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu “gweithgarwch ymosodol” Rwsia yn yr Wcráin.

Ond dywedodd ei bod yn “anffodus” fod rhaid iddi feirniadu Rwsia y tro cyntaf iddi ymddangos gerbron y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd: “Ry’n ni am wella ein perthynas â Rwsia.”