Mae 423 o bobol wedi cael eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth yn Nhwrci ar amheuaeth o fod â chysylltiadau â Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Cafodd 60 ohonyn nhw eu cludo i’r ddalfa yn Ankara.

Ond cafodd cannoedd yn rhagor eu harestio yn dilyn cyrchoedd yn Istanbul a Gaziantep ger y ffin â Syria.

Cafwyd y cyrch mwyaf yn Sanliurfa, lle cafodd dros 100 o bobol eu cludo i’r ddalfa yn dilyn cyrchoedd lle cafodd deunyddiau amheus eu darganfod.