Marine Le Pen (Llun: PA)
Fe fydd arweinydd y Front National, Marine Le Pen yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol Ffrainc wrth iddi lansio’i hymgyrch arlywyddol dros y penwythnos.

Mae disgwyl i’w hagenda gynnwys nifer o bolisïau fydd yn datgan ei gwladgarwch a’i chenedlaetholdeb, gan gynnwys nifer o bolisïau gwrth-Islamaidd.

Ac mae disgwyl mai un o’i gweithredoedd cyntaf fel Arlywydd fyddai ceisio tynnu Ffrainc allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd etholiadau’r wlad yn cael eu cynnal ar Ebrill 23 a Mai 7.

Donald Trump a Brexit

Mae disgwyl i Brexit ac ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau roi hwb i Marine Le Pen wrth i Ewrop weld cynnydd ym mhoblogrwydd pleidiau asgell dde.

Mewn cyfweliad yn ddiweddar, dywedodd fod “y byd, mae’n wir am Brexit, mae’n wir am Mr Trump, yn dechrau dod yn ymwybodol o’r hyn ry’n ni wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd.”

Dyma fydd ail gynnig Marine Le Pen i fod yn Arlywydd y wlad ar ôl ymgyrch aflwyddiannus yn 2012.

Mae disgwyl iddi orffen yn y ddau uchaf y tro hwn, ond mae rhagolygon yn awgrymu na fydd hi’n ennill.