Mae Iran wedi atal reslars o America rhag cymryd rhan mewn cystadleuaeth ymaflyd codwm, mewn ymateb i bolisi Donald Trump o atal Iraniaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd llefarydd Swyddfa Dramor Iran bod pwyllgor arbennig wedi edrych ar y mater “ac yn y diwedd bu gwrthwynebiad i ymweliad tîm ymaflyd codwm freestyle America”.

Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd reslo freestyle yn cael ei gynnal yn ninas Kermanshah yng ngorllewin Iran ar Chwefror 16-17.

Gwahardd y reslars yw ymateb cyntaf Iran i orchymyn Donald Trump i beidio â chaniatáu fisas i Fwslemiaid y wlad deithio i America.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Iran wedi rhybuddio eu bod am ymateb i bolisi Arlywydd America.