Mae dau filwr o’r Wcrain wedi’u lladd yn nwyrain y wlad, wrth i luoedd y llywodraeth fynd ben-ben gyda gwrthryfelwyr dros nos.

Mae deg o filwyr eraill wedi cael eu hanafu hefyd, wrth i’r ymladd yn ardaloedd mwya’ diwydiannol Wcrain fwrw ymlaen am y pumed dydd.

Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi’u lladd yno ers dydd Llun yr wythnos hon.

Mae adroddiadau o Donetsk yn cyfeirio at fomio trwm yng nghanol y ddinas lle mae’r gwrthryfelwyr yn dal grym. Mae’r ymladd wedi crynhoi yn ardal Avdiivka, ac mae trigolion wedi bod heb gyflenwad trydan ers dyddiau.

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi galw ar i’r ddwy ochr barchu’r cadoediad sydd wedi’i gytuno.