Yng Nghanada mae’r heddlu’n dweud bod chwech o bobl wedi’u saethu’n farw ac wyth wedi’u hanafu mewn ymosodiad ar fosg yn Ninas Quebec.

Mae Prif Weinidog Canada wedi ei ddisgrifio fel “gweithred brawychol.”

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng Nghanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Quebec yn ystod gweddïau nos Sul.

Mae dau o bobl wedi’u harestio. Cafodd un person ei arestio ar y safle ac un arall yn d’Orleans gerllaw, meddai’r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn nhalaith Quebec, Christine Coulombe, bod rhai o’r bobl gafodd eu hanafu wedi cael anafiadau difrifol a bod y rhai gafodd eu lladd rhwng tua 35 a 70 oed.

Roedd 39 o bobl yn y mosg ar y pryd, meddai.

Mae Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, wedi ei ddisgrifio fel gweithred brawychol wrth i densiynau gynyddu yn sgil penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i wahardd pobl o rai gwledydd Mwslimaidd rhag teithio i America.

Dywedodd Justin Trudeau bod “Mwslimiaid Canada yn rhan bwysig o wead cenedlaethol ein gwlad ac nid oes gan y gweithredoedd disynnwyr yma unrhyw le yn ein cymunedau, dinasoedd na’n gwlad.”