Mae’r chwilio’n parhau am 31 o bobol sy’n dal ar goll ar ôl i’w cwch ddiflannu oddi ar arfordir Malaysia fore Sadwrn, a hynny er gwaetha’r tywydd garw.
Mae llongau a hofrenyddion yn cymryd rhan yn y chwilio yn Kota Kinabalu mewn gwyntoedd cryfion a dyfroedd tymhestlog.
Roedd y cwch ar ei ffordd i ynys Pulau Mengalum pan aeth ar goll.
Mae lle i gredu bod 28 o bobol o China ar y cwch.