Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Mae barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi atal yr Arlywydd Donald Trump am y tro rhag alltudio unrhyw unigolyn sydd â fisa ac sy’n dod o Irac, Syria, Iran, Sudan, Libya, Somalia neu’r Yemen.

Yn ôl y barnwr yn Efrog Newydd, mae gan yr unigolion ddadl gref fod y gwaharddiad yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Daw’r penderfyniad ar ôl i bobol o’r gwledydd sy’n bennaf yn wledydd Mwslimaidd gael eu cadw yn y ddalfa mewn meysydd awyr ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym.

Yn ôl y barnwr, heb ei phenderfyniad fe fyddai “niwed” yn cael ei achosi i ffoaduriaid, deiliaid fisa ac unigolion eraill.

Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd y penderfyniad yn effeithio ar bobol sydd eisoes yn y ddalfa, ac fe allai pobol sydd wedi gadael yr Unol Daleithiau orfod aros allan am hyd at 90 o ddiwrnodau er bod ganddyn nhw gerdyn neu fisa yn dweud eu bod nhw’n byw yn y wlad.

Mae lle i gredu bod yr awdurdodau eisoes wedi gwrthod mynediad i 109 o bobol, a bod 173 o bobol wedi cael eu hatal rhag mynd ar awyren i deithio’n ôl i’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Donald Trump, mae’r mesurau’n angenrheidiol er mwyn atal “brawychwyr Islamaidd radical” rhag mynd i’r Unol Daleithiau, ac roedden nhw yn ei faniffesto ar gyfer yr arlywyddiaeth.

Ond mae’n gwadu mai “gwaharddiad yn erbyn Mwslimiaid” ydyw.

Mae protestiadau wedi’u cynnal ar hyd a lled yr Unol Daleithiau, ac mae nifer o wleidyddion wedi beirniadu Donald Trump.