Carchar Guantanamo - carcharorion newydd i gael eu hanfon yno
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi datgan bod “artaith yn gweithio”, wrth iddo baratoi ar gyfer adolygiad o ymdriniaeth y wlad â therfysgaeth.

Gall gynlluniau Donald Trump arwain at ail-gyflwyno rhai dulliau o arteithio sydd wedi eu gwahardd, ac mae’n bosib y gallai carchardai cyfrinachol gael eu hailagor.

Yn ôl adroddiadau, mae drafft cynnar o’r cynlluniau yn awgrymu y bydd carcharorion newydd yn cael eu hanfon i Fae Guantanamo.

“Mae artaith yn gweithio”

Mewn cyfweliad ar raglen newyddion ABC, wrth drafod ei gynlluniau, fe ddywedodd Donald Trump fod dulliau arteithio yn effeithiol wrth ymladd terfysgwyr.

“A ydi artaith yn gweithio?” gofynnodd, cyn ateb, “ydi, yn bendant.”