Mae dynion arfog wedi gorfodi eu ffordd i mewn i westy ym mhrifddinas Somalia, wedi i hunanfomiwr ffrwydro car y tu allan i’r gatiau.

Doedd dwsinau o bobol, yn cynnwys gwleidyddion, yn aros yng ngwesty Dayah yn ninas Mogadishu ar y pryd.

Mae rhai adroddiadau’n dal i gyfeirio at swn saethu yn yr ardal, ond does dim cadarnhad eto ynglyn â faint o bobol sydd wedi’u hanafu.

Mae’r grwp Islamaidd eithafol, al-Shabab, wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar ei orsaf radio ar-lein, Andalus, gan gadarnhau fod rhai o’i filwyr wedi cael mynediad i’r gwesty a bod “yr ymgyrch yn parhau”.

Mae al-Shabab yn aml yn targedu gwestai a mannau cyhoeddus eraill y mae swyddogion y llywodraeth a thramorwyr yn ymweld â nhw.