Mae disgwyl i Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau arwyddo nifer o ddogfennau heddiw a fydd yn rhoi caniatad i fwrw ymlaen â chynlluniau – ac yn eu plith, y mae’r gwaith o godi wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

“Mae dydd o bwys ar ddiogelwch gwladol wedi ei gynllunio,” meddai Donald Trump mewn neges ar ei gyfri’ Trydar nos Fawrth. “Ymysg nifer o bethau eraill, fe fyddwn yn adeiladu’r wal.”

Fe fydd yr Arlywydd yn ymweld â’r Adran Diogelwch Gwladol heddiw er mwyn rhoi sêl bendith i nifer o gynlluniau.

Mae sôn bod Donald Trump yn ystyried cynlluniau i gyfyngu’r nifer o fewnfudwyr ac yn ôl un adroddiad mae’r cynllun yn cynnwys gwaharddiad dros dro ar bobol o wledydd Mwslimaidd yn symud i’r wlad, yn cynnwys y Sudan, Irac, Somalia, Yemen, Syria, Libya ac Iran.

Hefyd, mae disgwyl i’r Arlywydd fwrw ymlaen gyda chynllun i dorri’r arian sydd ar gael i ddinasoedd nad ydyn nhw’n arestio mewnfudwyr sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau yn anghyfreithlon.