Cwn bach a oroesodd cwymp eira yn yr Eidal Llun: (Marisa Basilavecchia via AP)
Mae nifer y bobol sydd wedi marw yn dilyn cwymp eira yn yr Eidal wedi codi i 15 ac mae 14 o hyd ar goll.

Cafodd chwe corff eu darganfod dros nos ac mae timau achub yn parhau i chwilio heddiw yn y gobaith y gallai rhai fod wedi goroesi, chwe diwrnod wedi’r trychineb.

Fe wnaeth 60,000 tunnell o eira a cherrig ddisgyn ar Westy Rigopiano yn Abruzzo i’r Gogledd o Rufain ar 18 Ionawr, yn dilyn cyfres o ddaeargrynfeydd.

Mae naw person wedi cael eu hachub hyd yn hyn, a ddoe cafodd tri chi bach eu hachub o ystafell yng nghefn y gwesty.

Mae’r angladdau cyntaf wedi cael eu cynnal ddydd Mawrth.

Mae erlynwyr yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod a oedd  cyfres o fethiannau wedi cyfrannu at y marwolaethau yn dilyn honiadau bod y risg o gwymp eira wedi cael ei danseilio a bod ’na oedi cyn ymateb ar ôl dyddiau o eira trwm.