Mae’r Arlywydd presennol wedi gadael yr Oval Office am y tro olaf er mwyn cyfarfod â Donald Trump yn y Tŷ Gwyn cyn iddo yntau gael ei urddo yn Arlywydd.
Bydd Barack Obama yn croesawu’r darpar Arlywydd a’i wraig Melania Trump am de, cyn iddyn nhw deithio gyda’i gilydd i adeilad Capitol yr Unol Daleithiau.
Wrth adael fe drydarodd Barack Obama: ‘Mae eich gwasanaethu wedi bod yn anrhydedd. Fe wnaethoch chi fi yn arweinydd gwell ac yn ddyn gwell.’
Galwodd hefyd ar bobol i gredu “nid yn fy ngallu i ennyn newid, ond yn eich gallu chi”.
Seremoni Urddo
Mae disgwyl i’r Arlywydd newydd Donald Trump annerch cannoedd o filoedd o bobol fydd wedi ymgynnull ym mhrifddinas y wlad, Washington, gan gynnwys ei wrthwynebydd yn yr ymgyrch etholiadol, Hillary Clinton a’r cyn-Arlywydd George W Bush.
Mae’r seremoni urddo wedi denu gwrthwynebiad cryf gydag adroddiadau o brotestio ffyrnig a nifer o gerddorion, gan gynnwys Charlotte Church ac Elton John, wedi gwrthod perfformio yn y digwyddiad.