Mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi erfyn ar Donald Trump i gefnu ar ei “gasineb at fenywod” a’i “hiliaeth” wrth ddyfod yn Arlywydd.

Wrth siarad yng Nglasgow dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn gobeithio y byddai’r darpar Arlywydd “yn cefnu ar gasineb tuag at fenywod a’r sylwadau hiliol a wnaeth yn erbyn Mecsicanwyr a Mwslemiaid yn ystod yr ymgyrch etholiadol.”

Fe wnaeth hefyd gynghori’r dyn busnes i “wrando ar anghenion pob cymuned ar draws yr Unol Daleithiau” ac i fagu perthynas “feirniadol” â Rwsia.

Keir Hardie

Yn ei araith datgelodd arweinydd yr wrthblaid ei fod wedi rhoi llyfr am sylfaenydd y Blaid Lafur, Keir Hardie, i’r Arlywydd presennol Barack Obama.

“Dw i’n credu bod angen i’r byd cyfan ddysgu gwers gan Keir Hardie, fe ddaeth o’r tlodi a’r amgylchiadau mwyaf dychrynllyd ac fe addysgodd ei hun” meddai Jeremy Corbyn.

Awgrymodd hefyd y byddai Donald Trump yn medru elwa o ddarllen am fywyd Keir Hardie, gan ddweud: “Dw i’n meddwl byddai hyn yn neges dda iawn i’r darpar Arlywydd Trump.”