Cylchoedd yn yr anialwch (Llun: Wikipedia)
Mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i’r hyn sydd yn achosi cylchoedd “tylwyth teg” mewn anialwch yn ne cyfandir Affrica.

Cafodd dirgelwch y cylchoedd o wair sydd yn gorchuddio anialwch Namib yn Namibia ei ddatrys gan ymchwilwyr o Brifysgol Ystrad Clud a Phrifysgol Princeton.

Roedd theorïau yn y gorffennol yn awgrymu mai naill ai morgrug gwynion neu gystadlu rhwng planhigion oedd yn gyfrifol am y patrymau ond mae’r ymchwil diweddaraf yn awgrymu mai cyfuniad o’r ddau ffactor sydd yn eu hachosi.

Cyfuno dwy theori

“Mae ein darganfyddiadau yn cyfuno’r ddwy theori ac yn dod o hyd i esboniad posib ar gyfer patrymau llystyfiant o amgylch y glôb,” meddai Doctor Juan Bonachela o Brifysgol Ystrad Clud.

“Mae morgrug gwynion yn gwaredu’r llystyfiant … gan greu cylch moel, mae llystyfiant yn manteisio ar hyn, ac mae’r llystyfiant talach yma yn ffurfio cylch.”