Mae dwy ran o dair o’r wal derfyn rhwng Twrci a Syria wedi’i chwblhau, yn ôl swyddogion.

Mae dirprwy brif weinidog Twrci, Veysi Kaynak, yn dweud y bydd y prosiect cyfan wedi gorffen o fewn y misoedd nesa’.

Mae Twrci wedi cael ei beirniadu yn y gorffennol am beidio â gwneud mwy i reoli’r ffin rhyngddi a Syria, sy’n ymestyn am 560 milltir. Roedd milwyr o’r ddwy ochr yn croesi’r ffin heb awdurdod, ac roedd milwyr tramor o al Qaida ac ISIS hefyd yn croesi fel y mynnon nhw.

Roedd gwrthryfelwyr Syria, ffoaduriaid a channoedd o weithwyr dyngarol hefyd yn mynd o’r naill wlad i’r llall.

Fe ddechreuodd Twrci adeiladu’r wal yn 2014. Ym mis Awst y llynedd, fe ddechreuodd hel gwrthryfelwyr ISIS o’r ardal o gwmpas y ffin.