Istanbwl, Twrci
Mae’r dyn sy’n cael ei amau o ladd 39 o bobol yn ystod dathliadau’r flwyddyn newydd yng nghlwb nos Reina yn Istanbwl wedi’i arestio gan yr heddlu, yn ôl adroddiadau o Dwrci.

Mae un o bapurau newydd y wlad, Hurriyet, wedi enwi’r dyn fel Abdulkadir Masharipov gan ychwanegu ei fod yn ddinesydd o Uzbekistan.

Mae adroddiadau’n honni iddo gael ei ddal mewn cyrch arbennig gan yr heddlu mewn tŷ yn Istanbwl oedd yn eiddo i’w ffrind o Kyrgyzstan.

Mae’n debyg fod ei blentyn pedair oed wedi’i roi yng ngofal yr awdurdodau wrth i’r heddlu ddod o hyd i’r dyn fel rhan o’r cyrch, a bod ei ffrind a thri o bobol eraill wedi’u cadw yn y ddalfa hefyd.

Mae grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan a ddigwyddodd yn ystod oriau mân Ionawr 1.