Llun: PA
Mae o leiaf 37 o bobol wedi’u lladd wedi i awyren cludo nwyddau daro’r ddaear y tu allan i brif faes awyr rhyngwladol Kyrgyzstan yn Asia.

Yn ôl Gweinyddiaeth Sefyllfaoedd Brys y wlad, cafodd y rhai oedd yn teithio ar yr awyren eu lladd ynghyd â phobol sy’n byw yn yr ardal gyfagos.

Roedd yr awyren Boeing 747 yn perthyn i gwmni ACT Airlines ac wedi disgyn y tu allan i faes awyr Manas i’r de o brifddinas Kyrgyzstan, Bishkek, fore dydd Llun.

Mae adroddiadau bod yr awyren yn perthyn i gwmni cludo nwyddau wedi’i lleoli yn Istanbwl ac wedi teithio o Hong Kong.

15 o dai wedi’u difrodi

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Kyrgyzstan fod 15 o dai wedi cael eu difrodi, a bod mwy na 1,000 o weithwyr achub yn helpu ar y safle.

Nid yw achos y ddamwain wedi’i gadarnhau eto.

Dywedodd Gweinidog Sefyllfaoedd Brys Kyrgyzstan bod yr amodau o gwmpas maes awyr Manas yn niwlog fore dydd Llun, ond nad oedd amodau’r tywydd yn “ddifrifol.”